Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 2 Mawrth
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3542
Estynnodd y Llywydd groeso i Lefarydd Senedd Gwlad yr Iâ, sef Senedd hynaf y byd, a dirprwyaeth o Seneddwyr a oedd yn yr Oriel Gyhoeddus heddiw.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Atebwyd y 7 cwestiwn cyntaf gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd cwestiynau 2-7. Ni ofynnwyd cwestiwn 1. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.06
NDM5981 William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar yr
'Adolygiad o Drefniadau Deisebau Cyhoeddus' a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 2 Chwefror 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.39
Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Dirprwy Lywydd am 15.53 oherwydd i doriad trydan effeithio ar y Siambr. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull am 16.14.
Cafodd y trafodion eu hatal dros dro am yr eildro am 16.23 am 30 munud oherwydd ail doriad trydan. Cafodd y gloch ei chanu 5 munud cyn ailgynnull am 16.55.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5983 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod nifer o ysbytai yng Nghymru wedi cael eu cau neu wedi wynebu colli gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i warantu na fydd unrhyw ysbytai'n cael eu cau yn ystod y pumed Cynulliad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Llywodraeth nesaf Cymru gychwyn a chyflwyno cynllun ar gyfer cynnydd sylweddol yn nifer y meddygon fel y gellir darparu gwasanaethau yn lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
0 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru yn 2014 a oedd yn galw am 'ail-rymuso a bywiogi'r ysbyty gymunedol a gwasanaethau yn y gymuned' ac yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd mewn cymunedau ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5983 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu at y ffaith bod nifer o ysbytai yng Nghymru wedi cael eu cau neu wedi wynebu colli gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i warantu na fydd unrhyw ysbytai'n cael eu cau yn ystod y pumed Cynulliad.
3. Yn nodi Astudiaeth Gofal Iechyd Canolbarth Cymru yn 2014 a oedd yn galw am 'ail-rymuso a bywiogi'r ysbyty gymunedol a gwasanaethau yn y gymuned' ac yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu mwy o wasanaethau iechyd mewn cymunedau ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5984 Elin Jones (Ceredigion)
1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r UE.
2. Yn nodi bod amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag yn Lloegr a'r Alban.
3. Yn gresynu at yr anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau canser.
4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:
a) gwella'r perfformiad mewn perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r bobl y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis neu gadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio i gael eu profi;
b) cyflwyno cronfa triniaethau newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i driniaethau i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig ar angen clinigol nid lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf eithriadol; a
c) sicrhau bod pob claf canser yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
38 |
46 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:
'a rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4b), dileu 'cyflwyno cronfa triniaethau newydd' a rhoi yn ei le 'ymestyn y gronfa technolegau iechyd i feddyginiaethau newydd'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
42 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'datblygu panel Cymru gyfan ar gyfer ceisiadau cyllido cleifion unigol i osgoi'r loteri cod post sy'n bodoli eisoes ar gyfer triniaethau canser yng Nghymru.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
34 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'sefydlu gwasanaeth trin canser symudol cenedlaethol i atal teithiau yn ôl a blaen hir i gleifion sydd am gael mynediad i glinigau a thriniaeth cemotherapi'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'sefydlu ymgyrch addysg gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
0 |
46 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'darparu gwarant o apwyntiad dilynol fel bod pob claf yn cael ei weld o fewn chwe mis ar y mwyaf o ddiwedd ei gyfnod cychwynnol o driniaeth canser ac ymhellach yn galw am casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd i fonitro perfformiad yn erbyn y warant.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
8 |
23 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'penodi eiriolwr dros gleifion canser i ddwyn Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol i gyfrif mewn perthynas â chyflawni cynlluniau cyflenwi canser cenedlaethol a lleol.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5984 Elin Jones (Ceredigion)
1. Yn gresynu at y ffaith bod gan Gymru un o'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer canser yn y DU a'r UE.
2. Yn nodi bod amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn annerbyniol o uchel ac yn sylweddol uwch nag yn Lloegr a'r Alban.
3. Yn gresynu at yr anghydraddoldeb o ran mynediad cleifion ledled Cymru i gyffuriau a thriniaethau canser.
4. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:
a) gwella'r perfformiad mewn perthynas ag amseroedd aros diagnostig yn sylweddol, fel bod 95 y cant o'r bobl y mae eu meddyg teulu yn tybio bod canser ganddynt yn gallu cael diagnosis neu gadarnhad nad oes canser ganddynt o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cânt eu cyfeirio i gael eu profi;
b) cyflwyno cronfa triniaethau newydd i sicrhau ymagwedd genedlaethol tuag at fynediad i driniaethau i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad at driniaethau yn seiliedig ar angen clinigol nid lle maent yn byw neu a ydynt yn bodloni meini prawf eithriadol; a
c) sicrhau bod pob claf canser yn cael mynediad at weithiwr allweddol, gan gasglu a chyhoeddi data yn rheolaidd i ddangos perfformiad yn erbyn y targed hwn.
ch) sefydlu gwasanaeth trin canser symudol cenedlaethol i atal teithiau yn ôl a blaen hir i gleifion sydd am gael mynediad i glinigau a thriniaeth cemotherapi.
d) sefydlu ymgyrch addysg gyhoeddus flynyddol i godi ymwybyddiaeth o achosion a symptomau canser.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.25
Dechreuodd yr eitem am 18.30
NDM5982 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Bwyd da i bawb: cyflawni'r nod arlwyo 'Bwyd am Oes' yn ysgolion Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.52
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.00, Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2016